Parcio: Ceir tri maes parcio mewn mannau ar hyd y traeth. Mae dau yn feysydd parcio talu ac arddangos.
Cyfleusterau traeth: Toiledau, mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd rhwng dechrau mis Mehefin a diwedd mis Medi.
Cyfleusterau ar y lan: Mae siop syrffio, caffi a thafarn ar ben gogleddol y traeth. Mae gwersi syrffio a syrffio barcud a chyfleuster llogi byrddau ar gael yn y siop. Mae maes gwersylla mawr ar ben gogleddol y traeth a chyfleusterau gwely a brecwast, tai gwesty a hunanarlwyo gerllaw. Ar ben deheuol y traeth ceir caffi/siop glan môr, toiledau a maes carafanau sefydlog.
I gael gwybodaeth mynediad gweler www.pembrokeshire.gov.uk/accessguide
Rhimyn godidog o dywod llydan a gwastad dwy filltir o hyd gyda chlawdd anferth o gerigos y tu ôl iddo yw Traeth Niwgwl. Mae'r tywod yn diflannu ar lanw uchel ond ar lanw isel mae'n baradwys ar gyfer gweithgareddau. Mae Niwgwl yn un o dri lleoliad syrffio gorau Sir Benfro ac mae'n denu syrffwyr a chaiacwyr, ond oherwydd hyd y traeth a chan nad oes unrhyw rwystrau o dan y dŵr, mae'n berffaith hefyd ar gyfer syrffio gwynt a syrffio barcud. Mae cyfyngiadau ar gŵn yn nhraean canol y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi.
Os cerddwch yr holl ffordd i lawr i'r pen deheuol fe ddewch o hyd i ogof y gallwch gerdded drwyddi a dod at nifer o gilfachau cysgodol. Croeswch yr afon yng nghefn y clawdd cerigos gyferbyn â'r caffi ar y pen gogleddol er mwyn cael mynediad i nifer o gilfachau llanw isel. Ar lanw isel iawn mae'n bosibl cerdded draw i draeth Cwm Mawr ond cadwch lygad ar y llanw.
Take a walk along the Pembrokeshire National Trail – 186 miles of spectacular coastal walking, which now comprises part of the All Wales Coastal Path.
Start exploring the many rockpools at Newgale – Rockpooling is a fantastic activity that is suitable for all ages. Its educational, fun and a great way to engage with nature while at the beach. Rockpooling provides an insight into the creatures and seaweeds that live in the inter-tidal area. The Pembrokeshire coastline provides a number of opportunities for rockpool exploring which can be combined with a family day at the beach or a planned activity on its own.
Mammal spotting – look for evidence of mammal activity, through their spraint (poo) and evidence of badger holes etc. Even Otter prints – as they use the coast much more than people think. Find out more about poo spotting!
Take a surfing lesson if you’re a beginner, or check out the surf conditions for more experienced – surf report link
Take time out, relax, sit and just stare. Bring a picnic, or use one of the local cafes who serve delicious local produce.
Mae ariannu Môr Glas wedi gwella amgylchedd y prif faes parcio mewn nifer o ffyrdd.
Mae twmpathau pridd gyda phlanhigion brodorol nawr yn ymgorffori ardal y safle i'r dirwedd sy'n ei hamgylchynu, yn lleihau erydiad y clawdd ac yn lleihau'r effaith ar y bloc toiledau a'r adeilad achub bywyd. Mae hefyd yn rhoi ychydig o gysgod i ymwelwyr rhag y gwynt. Mae'r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr wedi'u gwella drwy ychwanegu dodrefn wedi'u hailgylchu, cawod arwyr agored (cynllun peilot yn Sir Benfro), raciau beic a gwell mynediad at y traeth. Caiff cyfleusterau ailgylchu eu hychwanegu yn y dyfodol.
Mae rhagor o waith gwella, a ariennir drwy'r rhaglen Môr Glas, wedi eu cynllunio ar gyfer 2012 er mwyn gwella mynediad at y traeth cyfan i bawb o'r maes parcio llai sydd gerllaw.